P-04-456: Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru:
i. I roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn dioddefwyr dementia yng Nghymru sy’n gwneud cais am Arian Gofal Parhaus y GIG, drwy ganiatáu i’r categori gwybyddiaeth o angen (a elwir yn ‘barth’) godi i lefel ‘Difrifol’ yn y fersiwn Gymraeg o’r Offeryn Gwneud Penderfyniadau. Byddai hyn yn ei gwneud yn gydnaws â’r fersiwn Saesneg; a
ii. Bod Byrddau Iechyd Lleol uniongyrchol yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Arian Gofal Parhaus y GIG, yn gywir, o ran cymhwysedd cleifion a heb ystyried cyfyngiadau cyllidebol.
Prif ddeisebydd: Helen Jones
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Chwefror 2013
Nifer y llofnodion: 1413